This could take a while

Camau Cyntaf mewn Manaweg

Gwers 1

1 Rhagenwau

mee mi
oo ti
eh ef
ee hi
shin ni
shiu chi, chwi
ad nhw, hwy

Yn y Fanaweg, defnyddir dwy ffurf ar gyfer yr ail berson, fel yn y Gymraeg. Ceir oo fel yr anffurfiol a shiu fel y ffurfiol. Clywir shiu wrth siarad â phobl hŷn neu â’ch SUPERIORS.

2 Y ferf ‘ta’ (bod)

Mewn brawddegau sy’n cyfateb i ‘mae Owen yn fach’, ‘mae Angharad yn ifanc’, ‘mae Dylan yn dda’, defnyddir y ferf ta. Fel yn y Gymraeg, daw’r ferf yn gyntaf yn y frawddeg. Edrychwch ar yr enghreifftiau canlynol:

Ta Moirrey aeg Mae Mair yn ifanc
Ta Juan shenn Mae Siôn yn hen
Ta Angharad maynrey Mae Angharad yn hapus
Ta Inry skee Mae Hari wedi blino

Ta Steaon shoh Mae Steffan yma
Ta Illiam shin Mae Gwilym yna
Ta Dylan shid Mae Dylan draw

Ta Moirrey mie Mae Mair yn dda
Ta Juan dy vie Mae Siôn yn iawn

Ta mee skee ‘Rwyf wedi blino
T’ou feayr ‘Rwyt ti’n oer
T’eh lajer Mae ef yn gryf
T’ad shoh Maen nhw yma
Ta’in fliugh ’Rydym ni’n wlyb
Ta shiu blah ’Rydych chi’n boeth

3.1 Enwau amhendant

Fel yn y Gymraeg, nid oes bannod amhendant yn y Fanaweg. Caiff moddey (ci) ei gyfieithu i’r Saesneg fel ‘dog’ neu ‘a dog’. Yn yr un modd, gall moddey (cŵn) olygu ‘dogs’ neu ‘some dogs’ yn y Saesneg.

moddey /mɔdə/ ci
kayt /cat/ cath
carr* /ca:r/ car
jough /jɔx/ diod, joch
guilley /g*ilə/ bachgen, hogyn
caillin /ca:lin/ merch, geneth
rooym /ru:m/ ystafell
thie /ta:i/ tŷ
argid /a:rgid/ arian, pres

*Noder y clywch gleashtan (/gli:ʃtən/) yn ogystal â carr yn y Fanaweg. Defnyddir y term carr yn y llyfr hwn.

3.2 “Mae yna”

****

4.1 Gan (Dangos meddiant)

Mewn Cymraeg safonol, defnyddir rhediad yr arddodiad ‘gan’ er mwyn dangos meddiant. Mae hyn yn debyg i’r Fanaweg ond defnyddir yr arddodiad ec (at) yn lle. Daw ‘mae cath gan Siôn’ yn:

Ta kayt ec Juan (yn llythrennol ‘mae cath at Siôn’)

Yn yr un modd:

Ta moddey ec Moirrey = Mae ci gan Mair
Ta thie ec Angharad = Mae tŷ gan Angharad
Ta lioar ec Steaon = Mae llyfr gan Steffan
Ta jough ec Ann = Mae diod gan Ann

4.2 Rhedeg yr arddodiad ec

Er byddai ec yn cyfateb i ‘gan’ yn y Gymraeg, dangosir y rhediad isol yn llythrennol, sef ‘at’.

ec + mee = aym (ataf i)
ec + oo = ayd (atat ti)
ec + eh = eckey (ato ef)
ec + ee = eck (ati hi)
ec + shin = ain (atom ni)
ec + shiu = eu (atoch chwi)
ec + ad = oc (atynt hwy)

Ta kayt aym (NID ec mee) Mae cath gennyf
Ta carr ayd Mae car gennyt
Ta thie echey Mae tŷ ganddo
Ta argid ain Mae arian gennym

Ymarfer 1
Cyfieithiwch y canlynol:

a. Mae Dylan yn oer
b. Mae Mair yn boeth
c. ‘Rwy’n fach
ch. Maen nhw’n fawr
d. Mae hi yma
dd. Mae llyfr gan Siôn
e. Mae ci gan Angharad
f. Mae arian gennyf
ff. Mae tŷ gennym
g. Mae merch ganddo

4.3 Gwybod

Yn wahanol i’r Gymraeg, mynegir ‘gwybod’ trwy ddweud bod gwybodaeth ‘at’ rywun, fel y gwelsom yn 4.1.

Ta fys ec Juan
Mae gwybodaeth at Siôn
Mae Siôn yn gwybod
Ta fys aym
Mae gwybodaeth ataf
‘Rwy’n gwybod

Yn debyg i’r Gymraeg, ni ddefnyddir y term hwn i fynegi adnabyddiaeth o berson. Edrychwn ar y ferf ‘adnabod’ yn hwyrach yn y llyfr.

5 Ffurfiau negyddol a gofynnol y ferf ‘bod’

Er mwyn mynegi ta yn y negyddol, disodlwn ta gyda cha nel:

Cha nel Juan bec Nid yw Siôn yn fach
Cha nel Moirrey çheh Nid yw Mair yn boeth
Cha nel mee shenn Nid wyf yn hen
Cha nel ee shoh Nid yw hi yma
Cha nel kayt eckey Nid oes cath ganddo
Cha nel argid ec Catreeney Nid oes arian gan Catrin
Cha nel jough aym Nid oes diod gennyf

Er mwyn ffurfio’r gofynnol (cadarnhaol) [a yw? / a oes?], disodlwn ta gyda vel:

Vel Juan feayr? A yw Siôn yn oer?
Vel Moirrey beg? A yw Mair yn fach?
Vel eh shoh? A yw hi yma?
Vel moddey ec Dylan? A oes ci gan Dylan?
Val carr ayd? A oes car gennyt?

Er mwyn ffurfio’r gofynnol (negyddol) [onid yw? / onid oes?], disodlwn ta gyda nagh vel:

Nagh vel Moirrey mooar? Onid yw Mair yn fawr?
Nagh vel ad mie? Onid ydynt yn dda?
Nagh vel thie ec Angharad? Onid oes tŷ gan Angharad?
Nagh vel moddey ayn? Onid oes ci gennym?

6 Ateb cwestiynau

Nid oes modd unigol o fynegi’r Saesneg ‘yes’ a ‘na’ yn y Fanaweg. Fel sydd yn y Gymraeg, atebir y cwestiwn trwy ailadrodd prif ferf y cwestiwn. Eto, nid oes angen ailadrodd goddrych y frawddeg. Edrychwch ar y canlynol:

Vel oo dy vie? A wyt ti’n iawn?
Ta Ydw
Cha nel Nac ydw

Nagh vel ee shoh? Onid yw hi yma?
Ta Ydy
Cha nel Nac ydy

*********

8.1 Adferfau

Ffurfir adferfau gan ychwanegu dy cyn ansoddeiriau. Gall hyn gyfateb i ychwanegu yn yn y Gymraeg er mwyn creu adferf. Cymharer hyn â’r Wyddeleg (go / do) ac â Gaeleg yr Alban (gu):

mie da dy mie yn dda, yn iawn
drogh drwg dy drogh yn ddrwg
jesh braf dy jesh yn braf

Mae adferfau eraill sy’n cydfynd â dy:

dy moal yn araf
dy tappee yn gyflym

8.2 ‘Sut wyt ti?’

Edrychwch ar yr ymadrodion canlynol:

Kys t’ou? Sut wyt ti?

ta dy mie yn iawn
ta dy jesh yn braf
cha nel dy drogh ddim yn ddrwg
cha nel dy mie ddim yn dda, ddim yn iawn
cha nel agh cossyllagh yn weddol
Vel oo hene dy mie? Wyt ti dy hun yn iawn?

Geirfa

myrgeddin /mirgεtən/ hefyd
bwoyagh /bwɔεəx/ hyfryd
fys /fi:s/ gwybodaeth
Vel fys ayd? /vεl fi:s εəd/ Wyt ti’n gwybod?
dy jarroo /də jar**/ wrth gwrs
nish /niʃ/ ‘nawr / rŵan
agh /a:x/ ond
ny /nə/ neu, ynteu
rooym /r**əm/ ystafell
chor erbee /xɔr ***/ o gwbl
ooilley /***lə/ pob, i gyd
jiu /ju:/ heddiw
slaynt vie /slant vai/ iechyn da

TAGGLOO (SGWRS)

Juan: Vel thie ec Owen shoh?
Moirrey: Ta, ta thie ec Owen shud. Ta thie ec Dylan myrgeddin as ta eh jesh.
Juan: Vel moddey as kayt oc, vel fys ayd?
Moirrey: Cha nel, cha nel moddey ny kayt oc.
Juan: Dy jarroo! Nish, vel carr ayd?
Moirrey: Ta, ta carr aym agh cha nel eh mooar chor erbee.
Juan: As vel thie ayd?
Moirrey: Cha nel, cha nel thie aym. Cha nel argid aym. As cha nel thie ec Ann no ec Illiam. Ta guilley as caillin oc.
Juan: Vel Steaon shoh?
Moirrey: Ta, ta Steaon shoh. Ta rooym eckey. T’eh maynrey shoh. Ta lioar eckey as t’eh mie.
Juan: Vel shiu ooilley maynrey shoh?
Moirrey: Cha nel, cha nel shin ooilley maynrey chor erbee. T’eh feayr as fliugh jiu as ta’in skee.
Juan: Vel jough ayd?
Moirrey: Ta, ta jough aym shoh – blah as lajer. Slaynt vie!

CYFIEITHIAD

Siôn: A oes tŷ gan Owen yma?
Mair: Oes, mae tŷ gan Owen draw yna. Mae tŷ gan Dylan hefyd ac mae’n hyfryd.
Siôn: A oes ci a chath ganddynt, wyt ti’n gwybod?
Mair: Nag oes, nid oes ci neu gath ganddynt.
Siôn: Wrth gwrs! ‘Nawr, oes car gennyt?
Mair: Oes, mae car gennyf ond nid yw ef yn fawr o gwbl.
Siôn: Ac oes tŷ gennyt?
Mair: Nag oes, nid oes tŷ gennyf. Nid oes arian gennyf. Ac nid oes tŷ gan Ann neu gan Gwilym. Mae bachgen a merch ganddynt.
Siôn: A yw Steffan yma?
Mair: Ydy, mae Steffan yma. Mae ystafell ganddo. Mae ef yn hapus yma. Mae llyfr ganddo ac mae ef yn dda.
Siôn: A ydych chi i gyd yn yma?
Mair: Nag ydyn, nid ydym i gyd yn hapus o gwbl. Mae hi’n* oer ac yn wlyb heddiw ac ‘rydym ni wedi blino.
Siôn: A oes diog gennyt?
Mair: Oes, mae diod gennyf yma – cynnes a chryf. Iechyd da!

*Noder cyfeirir y Fanaweg at y tywydd gan ddefnyddio’r wrywaidd (t’eh feayr [mae ef yn oer]).

Gwers 2

9.1 Rhagenwau Pwysleisiol

mish mi, myfi, minnau
uss ti, tydi, tithau
eshyn ef, efe, efô
eeish hi, hyhi, hithau
shinyn ni, nyni, ninnau
shiuish chwi, chwy-chwi, chwithau
adsyn hwy, hwynt-hwy, hwythau

Fel arfer, defnyddir Manaweg y rhagenwau pwysleisiol yn lle tôn neu bwyslais yn y llais) er mwyn pwysleisio neu gyferbynnu.

*******

98.5 Yr amser perffaith IMMEDIATE

NEWYDD

Geirfa

screeuyn (b) /skr**n/ llythyr
trimmid (g) /triv?id/ pwys(au)
dy chosney (berf) /də xɔsnə/ rhoi pwysau ymlaen
toshiaghey (berf) /tɔʃaxə/ cychwyn, dechrau
ollooscoill (g) /ɔl***/ prifysgol
yn çhiaghtin shoh çheet /ən tʃi:axtin ʃo tʃi:t/ wythnos nesaf
creck (berf) /crek/ gwerthu
gynsagh (berf) /ginsəx/ dysgu
cruinnaghey (be) /cru:inəxə/ cynhadledd, Eisteddfod
fysseree (g, 1) /fisəri:/ gwybodaeth

Ymarfer 4

Cyfieithiwch
Mae Owen newydd ddod.
Mae Siân wedi ysgrifennu’r llythyr.
Mae Siôn wedi mynd.
ch. Mae ef wedi mynd allan.
Maent wedi rhoi pwysau ymlaen.
Mae Mair wedi gwerthu’r hen dŷ o’r diwedd.
Bydd Ann wedi dechrau yn y brifysgol wythnos nesaf.
Mae Siôn wedi bwyta gormod yn barod.
ff. Byddai Hari wedi dysgu Manaweg.
g. Ar ôl i Neil gasglu’r holl wybodaeth.

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Change )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Change )

Connecting to %s