SUT MAE’N TEIMLO?

Gyfoeswyr, sut mae’n teimlo
I gerdded mewn i wlad,
I foddi hen dai’r werin
A lladd llawn llu fy nhad?

Gymydog, sut mae’n teimlo
I gamu dros ein tir,
I fathu llwyth yr hen dai haf
A throi’n hanes ni o’r gwir?

Gyfaill, sut mae’n teimlo
Wedi’r gân a’r iaith,
Ar ôl i dir y Cymry
Suddo dan dy daith?

O Loegr, sut mae’n teimlo
I ddinistrio oll ein bryd,
A magu mwy sy’n para
I gladdu corff ein byd.

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Change )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Change )

Connecting to %s