Teimlad wedi’r Reff’

‘Roedd yn anodd i mi ddisgrifio’r teimlad wedi canlyniad y refferendwm ar Fedi 18fed.
Aros ar ddeffro trwy’r nos ond i glywed nad oedd canran y bobl oedd yn dewis annibyniaeth yng Nglasgow yn ddigon i sicrhau dyfodol newydd.
Chwiliais am gysur ar Drydar wrth weld cymaint o bobl yn ymddiheuro am bleidleisio dros aros fel rhan o’r Deyrnas Unedig.
Dau ddiwrnod wedyn ces wahoddiad i siarad ar ran Cangen Cymru y Gynghrair Geltaidd wrth ddathlu cred Glyndŵr a’i ddilynwyr a’u ymdrech am ennill dyfodol gwell i Gymru.
Yn fy araith oedd negeseoun o obaith y bydd, ryw ddydd, Cymru, Yr Alban a gwledydd eraill heb lais ar draws Ewrop yn ennill eu lleisiau – heb anghofio am ddewrder ddangoswyd gan bobl y wlad hon dros chwe chan mlynedd yn ôl.
Ond, er fy ngobaith, ‘roeddwn yn methu cael gwared o siom y refferendwm.
Yn Rhuthun, wnes gyfarfod Mike Chappell – aelod o Gangen Kernow y Gynghrair Geltaidd – ymhlith llawer eraill ddywedodd wrthyf y daw tân o ludw cof Glyndŵr ac wneithon nhw dyfu’n fflamau rhyddid. Nid ond i Gymru, ond i bawb. I bawb sy’n credu mewn hunan-lywodraeth a gonestrwydd.
Dangosodd Mike i mi fod y 1,617,989 bleidleisiodd dros annibynniaeth wedi sicrhau nad oedd tân rhyddid wedi oeri o gwbl. Ac mae’r fflamau’n boethach nag erioed.
Yn ôl y BBC, mae ond 3% o drigolion Sir Benfro yn credu y gallai Cymru lwyddo fel gwlad annibynnol (er y ffaith ddywedodd 49% y dylai Cymru hawlio mwy o bwerau i greu cyfreithiau – ystadegyn na hawliodd le ym mhrif-benawd yr adroddiad am ryw reswm). Profodd polau piniwn eraill fod 27% yn cefnogi Cymru rydd mewn mannau eraill.
Wrth gwrs mae’n anodd cyfri cefnogaeth go iawn dros annibyniaeth i Gymru ond yr hyn sydd yn galonogol ydy’r medrwn drafod annibyniaeth heb neb yn chwerthin am ein pennau am fod yn genedlaetholwyr di-bwynt sy’n byw mewn breuddwyd.

Mae amserau’n newid.

Fel un sy’n credu mewn hunan-lywodraeth i bawb, ‘rwy’n troi fy sylw at Gatalunya lle mae’i phobl yn mynd at y polau ym mis Tachwedd i amlygu’u cred mewn rhyddid ac annibyniaeth.
Gobeithio bydd llygaid barcud a chlustiau eryr y Celtiaid yn cael eu gludo ar ein cyfeillion yng Nghatalunya i ddangos i’r byd, drwy drafod yn unig, y gallwn greu tonnau.

Gobeithio pan glyŵn ni SÍ y Catalaniaid dros Ewrop, byddwn ni yn ddigon dewr i alw am ragor o ystadegau sy’n dangos y caiff ein gwlad ei rhedeg gan bwerau estron. Gobeithio y safwn yn uwch na’r rhai sy’n gwrthwynebu sosialaeth a thegwch. Gobeithio, wrth basio ar y stryt, ‘rydym ni’n anghofio clecs am y tywydd ac ‘rydym ni’n rhannu’n breuddwydion am sut bydd Cymru annibynnol yn edrych ac yn teimlo i bawb sy’n galw Cymru eu llain nhw.

Owen Llai

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Change )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Change )

Connecting to %s