Cymraeg: Cymru, Yr Ariannin ac…. Iwerddon?

Roedd yn Dwît ataf gan Darragh Ó Naraigh a’m gorfododd i feddwl;

“@milseogmhilis: Ba chóir #Cymraeg a mhúineadh mar ábhar roghnach i scoileanna in Éirinn #Gaeilge @SteCymru14”

Mae Darragh yn flogwr o Iwerddon sy’n trafod gwahanol bynciau sy’n ymwneud â’i wlad – trwy gyfrwng iaith ei wlad.

Yn ôl ei Dwît uchod (gydag ymddiheuriadau am gyfieithiad gwael o’r Wyddeleg gennyf innau), “Dylai’r Gymraeg gael ei haddysgu mewn ysgolion ar yr Ynys Werdd.”

Wedi i mi orffen gwenu o glust i glust am y ffaith bod ‘na bobl yn Iwerddon sy’n credu dylai iaith y nefoedd gael ei haddysgu mewn gwlad arall – wel, mae un person sy’n credu hyn beth bynnag! – feddyliais am yr hyn ‘rwy’n addysgu fel athro’r Gymraeg trwy gyfrwng y Saesneg.
‘Rwy’n sicr nad wyf innau’r unig un sy’n credu mai athrawon diwylliant Cymru, yn ogystal ag athrawon iaith, ydym ni fel athrawon Cymraeg trwy gyfrwng y Saesneg. Nid oes eisiau arnaf yma fynd ati i lunio cwyn neu adroddiad swyddogol am sefyllfa addysg hanes fel pwnc yng Nghymru, ond gall unrhyw un sydd gan ymennydd weld nad oes pwyslais o gwbl ar ddiwylliant, ar dreftadaeth nag ar etifeddiaeth ein gwlad yn y cwricwlwm presennol. Felly mae arnom ninnau (ar hyn o bryd, o leiaf) i sicrhau daw dysgwyr i wybod am Gymru yn ogystal â dysgu’r iaith.

Mae hyn yn ddyletswydd fawr arnom fel athrawon iaith ond fel myfyriwr aeth trwy’r system addysg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg fy hun a ddaeth allan heb unrhyw wybod am hyn oed Sam Tân (heb sôn am Owain Glyndŵr a’i gyfeillion ac am hanes Cymreig Nos Galan Gaeaf), mae’n ddyletswydd angenrheidiol.
Bob hyn â hyn yn fy ngwersi (yn yr amseroedd prin sydd gennym cyn diwedd tymor neu hanner tymor lle mae’n anodd dechrau topig newydd ac mae’r gwaith adolygu wedi gwblhau, ‘rwy’n tueddu i ddangos sioeau sleidiau arbennig (a greuais innau fy hun gynt). Fel arfer, maen’ nhw’n fersiynau syml o’r Mabinogi neu am straeon Cymreig eraill. Hefyd, af ati i lunio gwersi am hanes Cymreig Nos Galan Gaeaf, y Nadolig a’r Pasg. ‘Rwy’n tueddu i ychwanegu lluniau bach neis yn ogystal â chwestiynau yn Saesneg i’r plant eu hateb am y straeon neu am y digwyddiad.
Ond nid hynny ydy fy mhwynt yn y blognod hwn – er ‘rwy’n gobeithio fy mod i wedi rhoi syniad newydd, difyr i athro/awes arall!

Yn ogystal â’r straeon ayb, ‘rwyf hefyd yn hoff o adrodd diwylliant y gwledydd Celtaidd bob tro daw dyddiad Sant yn y calendr.

Mawrth 1af – Dydd Gŵyl Ddewi (Cymru), Mawrth 5ed – Dydd Gŵyl Beran (Cernyw), Mawrth 17fed – Dydd Gŵyl Badrig (Iwerddon) a Thachwedd 30fed – Dydd Gŵyl Andrea (Yr Alban).

DS Ni wn am ddyddiau arbennig tebyg yn Llydaw nag ar Ynys Manaw.

Pan af ati i ddangos y sioeau sleidiau hyn, mae wastad amser i’r plant ddysgu bach o iaith y wlad dan sylw.

Efallai mae hyn yn cynnwys cael plant i ddyfalu beth ydy ystyr y gair Cernyweg ‘kath’ (dim gwobrau i neb yno), neu gael y plant i weld sut mae ‘tha’ yn Ngaeleg neu ‘tá’ yn y Wyddeleg yn cyfateb i ‘mae’ yn Gymraeg (gwobrau lu yno!).

Fel arfer, rhoddaf gyfle i’r plant lunio sgwrs fach syml yn yr iaith dan sylw ar ddiwedd y sesiwn…. ond gyda thwist!

Dim ond trwy gyfrwng y Gymraeg gall plant ddeall yr iaith arall. Er enghraifft, wrth ddysgu dipyn bach o Gernyweg;

___ ov vy = ___ ydw i

da yw genev = dwi’n hoffi

Trwy wneud hyn, mae plant yn dibynnu’n gyfan gwbl ar eu gwybodaeth o’r Gymraeg er mwyn cael at a deall yr iaith newydd.

Weithiau ‘rwy’n rhoi paragraff Gwyddeleg (neu ba bynnag iaith) a chael y plant i feddwl beth mae’n olygu. Yr unig ffordd gallent wneud hynny, wrth gwrs, ydy cofio am eu Cymraeg er mwyn gweld geiriau tebyg a llunio trawsieithiad yn eu pennau.

Mae hon yn dasg sy’n ddiddorol ac mae’n sicr o weithio gan, mwy na thebyg, na fyddai’r plant wedi gweld yr ieithoedd hyn o’r blaen – methiant systemau addysg arall yn yr Ynysoedd Prydeinig a thu hwnt yno!
Pam ydw i’n credu mor gryf yn fath ffyrdd craff, ysgafn ac isymwybodol o addysgu’r Gymraeg? Achos fel myfyriwr (nad oedd ganddo Gymraeg perffaith o gwbl), ‘roedd yn rhaid i mi astudio Llydaweg, Gwyddeleg, Gaeleg yr Alban, Hen Gymraeg ac Hen Wyddeleg fel rhan o’m cwrs yn y brifysgol…. trwy gyfrwng y Gymraeg i gyd.

‘Doeddwn i ddim yn medru credu pa mor sydyn y cryfhaodd fy Nghymraeg trwy astudio’r ieithoedd hyn – rhan fwya’ o’r amser, heb wybod yn wybodol am y cynnydd ‘roeddwn yn ei wneud gyda fy Nghymraeg.

Byddai’n ddiddorol iawn gwneud ymchwil ar yr effaith mae gwersi Ffrangeg neu Almaeneg ayb yn cael mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg ar allu ieithyddol y plant gyda’u Cymraeg.
Siawns (enfawr) na fyddai’r blognod hwn wedi helpu neb gyda’u haddysgu ond ‘rwy’n gobeithio bod ‘na o leiaf rywbeth i bobl feddwl amdano.
Hir oes i ddiwylliant Cymru – pa bynnag iaith ein hysgolion.

Stephen Rule

@MaelorCymraeg

@SteCymru14

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Change )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Change )

Connecting to %s