IMG_0579-0

Dumb-deithas yr Iaith

Isod ydy casgliad o’m sylwadau (a bostiais ar Facebook) am ‘stynt’ Cymdeithas yr Iaith i ddangos methiannau (a chwbl osgoi llwyddiannau) Cymraeg Cyfrwng Saesneg mewn ysgolion Saesneg eu hiaith.

Dyma lun o’r minioniaid yn defnyddio eu hamser (ac arian gan gefnogwyr) yn effeithiol iawn yn Eisteddfod Meifod wythnos diwethaf….

****

“Dwi wedi ‘confrontio’ (sori am yr iaith slac, dysges i trwy’r system ‘ail iaith’!) minioniaid Cymdeithas ar Drydar.

D’udes i byse gweld rywbeth fel hyn pan odda’ i’n dysgu Cymraeg wedi rhoi fi off (idiom ‘ail iaith’ arall yne!) dysgu yn hollol. Fel d’udodd [athrawon Cymraeg ‘ail iaith’ eraill], ma’ ‘ne ffyrdd lot gwell o ‘neud pwynt.

“Yn anffodus, dyddie yma, mae athrawon yn cael y bai i gyd am ‘broblemau’ efo pynciau – er gall bai aflwyddiant fynd hefyd ar ysgolion yn gyffredinol, ar rieni / ofalwyr ac ar blant.

Ni ydi’r athrawon yne ac aton ni mai hyn yn arwain. Mae Cymdeithas yr Iaith yn tarnishio pob un athro/awes wrth wneud hyn – rhywbeth maen nhw’n tueddu i ‘neud yn dda iawn!

Gallai rhieni / ofalwyr hefyd weld hyn a cholli lot o ffydd yn y system sydd gan broblemau, ond sydd hefyd yn creu dysgwyr yr iaith sydd yn rhygl ac yn teimlo’n lot gryfach dros yr iaith na lot fawr o bobl sy’ wedi siarad yr iaith o’r crud.

“Yn fy marn i, mae’n bynciau fel hanes (yn eu ‘cyflwr’ presennol) sy’n achosi lot fwy o broblemau o ran diwylliant Cymru nag addysgu Cymraeg trwy gyfrwng y Saesneg. Ac nid pop ar athrawon hanes, ysgolion, rhieni, gofalwyr na phlant ydi hyn o gwbl. D’eud ydw i bod y ffaith nad oes cwricwlwm cryf sy’n rhoi’r pwyslais ar hanes Cymru gennyn ni (ond yn hytrach ar hanes Prydain / Lloegr), mae hyne’n gallu rhoi plant off y ffaith o fod yn falch o fod yn Gymry yn y lle cynta’, heb sôn am gael y balchder i ddysgu iaith y nefoedd.”

****

Baswn i BYTH eisiau cymryd unrhyw glod am fy ngwaith fel athro’r Gymraeg mewn ysgol Saesneg ei hiaith o gwbl – er mae’n neis iawn ei glywed pan ddaw.

Mae’r Gymraeg yn fy ysgol innau wedi mynd o’r gwaelod i’r ail safle mewn rhestr o bynciau mae’r plant (ac rhieni) yn eu parchu fwya yn yr ysgol. Pan ddechreuais yn yr ysgol, roedd 6 yn astudio’r Gymraeg fel TGAU cwrs llawn – bellach mae 46 ac bydd Cymraeg Lefel A ar gael o fis Medi ymlaen am y tro cyntaf – efo 11 yn ein dosbarth. Mae agwedd y plant i GYD (o gyfnod allweddol 3 i 5) yn fy synnu bob dydd ac yn ‘neud fi deimlo mor falch.

Dwi’n siŵr mae hyn ond yn effaith naturiol gwladol (ac nid ond yn ein hysgol ni) sy’n gweld plant yn troi at y Gymraeg efo lot mwy o barch ac efo’r eisiau i ddysgu.

Yn anffodus, dydi’r minioniaid yn Cymdeithas ddim yn sylweddoli bod ‘ne athrawon Cymraeg sy’n trio’n galed iawn iawn i sicrhau caiff plant ein hysgolion yr addysg orau (sydd ar hyn o bryd ar gael) yn Gymraeg.

Felly diolch, finioniaid. Am ffordd o ddangos eich bod yn cyd-sefyll ag athrawon ein gwlad er mwyn cyrraedd YR UN NOD rydyn ni’n trio ei gyrraedd – sef gwlad ddwyieithog.

A* i Gymdeithas….

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Change )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Change )

Connecting to %s