Mewn undeb mae….?

Dwy fil o flynyddoedd yn ôl, daeth y Rhufeiniaid i Ynys y Cedyrn (neu’r Ynysoedd Prydeinig, fel y’u gwyddom heddiw). Ni aeth amser maith heibio cyn i’r tiroedd ‘rydym ni’n eu galw heddiw’n Lloegr syrthio dan bawen orchmynol y gwareiddwyr – ‘mond misoedd, os hynny. Ond deng mlynedd ar hugain gymerodd y Rhufeiniaid i drechu’r Cymry.
A pham? Oherwydd tiroedd a thywysogaethau gwahanol oedden ni. Mae’n haws trechu gwlad cyfan (pa bynnag ei maint) sydd wedi uno dan un arweinydd nag y mae trechu cymysgedd o diroedd dan arweiniad mwy nag un arweinydd, wrth gwrs.

Mil o flynyddoedd yn ddiweddarach, tro’r Normaniaid oedd i drechu’r Ynysoedd Prydain. Yn 1066, dan arweiniad un Brenin o’r enw Harold, llwyddodd Gwylim Goncwerwr i ennill coron Lloegr mewn, mwy na lai, diwrnod. Er hynny, ac oherwydd anghytuno’r Cymry ar y pryd, 116 o flynyddoedd aeth heibio cyn i’r Normaniaid (dan enw’r Saeson, erbyn hynny) drechu’r wlad a alwn yn Gymru heddiw.

Mewn undeb mae nerth…. oes?

Cwpl o flynyddoedd yn ôl, es i wylio Cymru yn chwarae Lloegr mewn gêm pêl-droed yn Stadiwm y Mileniwm…. gêm a gollom ni, yn anffodus. Ni chofiaf lawer o’r gêm, a dweud y gwir. Cofiaf y canu ar y strydoedd rhwng gefnogwyr y ddwy wlad. Cofiaf y ddwy gôl a sgoriwyd yn ein herbyn. A chofiaf y cwffio – nid rhwng cefnogwyr Cymru a Lloegr, ond rhwng cefnogwyr Cymru a Chymru…. neu, i fod yn glir (ac fel y daeth i’r amlwg wedi’r gêm), rhwng cefnogwyr Caerdydd ac Abertawe.
Nid un ydym…. ac, mewn gwirionedd, dylsem barchu hynny.

****

Fel athro’r Gymraeg fel ail iaith, mae wedi bod yn gwbl amhosibl osgoi’r trafod ynglŷn â chyflwr yr iaith o ran addysg. Dwi wedi clywed y cwbl – o’r angen i sicrhau caiff pob pwnc ei addysgu trwy gyfrwng y Gymraeg ym mhob ysgol yng Nghymru, i ddarllen petitiwn arlein yn gofyn i Lywodraeth Cymru ollwng popeth am y Gymraeg ym mhob rhan o Gymru er mwyn gwario’r arian (fasai’n cael ei ‘arbed’) ar bethau fwy ‘ddefnyddiol.’

Ond nid trafodaeth am le dwi’n sefyll ynglŷn â sefyllfa’r Gymraeg ydi hon.
Yn bersonol, dwi’n gwerthfawrogi pob ceiniog a phob eiliad mae swyddogion ein cynulliad yn gwario ar faterion ein hiaith. Efallai nad oes digon o oriau yn cael eu gwario ac efallai nad oes digon o bunnoedd yn cael eu taflu at gryfhau ein hiaith ond, yn fy marn i, mae’n rhaid gwerthfawrogi unrhyw beth cadarnhaol cyn i ni gwyno. Gallai fod yn waeth, wrth gwrs!

Mae llwyth o drafod yn wastad ynglŷn â sefyllfa’r Gymraeg. Faint dylai gael ei wario arni? Sut allem sicrhau bod pawb sy’n medru’r iaith yn ei defnyddio? Ayb ayb ayb.

I finnau, trifia ydi hwnnw.

Daw fy mhroblem innau o’r hyn nad ydi pobl yn ei drafod. Fy mhroblem i ydi ein hundod.

Pob tro daw cynllun newydd i ddatblygu’r Gymraeg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg, mae disgwyl i bob ysgol o fewn pob awdurdod fagu’r eidiolegau newydd a’u gweithredu cyn gynted â phosibl. Ac ym mhob cynllun mae unfrydiaeth. Unfrydiaeth sy’n disgwyl i bob rhan o Gymru lwyddo i ategu un polisi tuag at y Gymraeg – boed hynny’n disgwyl i bob plentyn dd’eud ‘yma’ wrth glywed eu henw ar y gofrestr neu’n disgwyl i gael gwbl-ddwyieithrwydd ar goridorau pob un ysgol yng Nghymru.

Wrth gwrs, dydi hyn ddim yn bosibl. Gwallgofrwydd llwyr byswn i’n ei alw, a bod yn onest.
Mae Cymru yn wahanol. Nid yn unig yn wahanol yn yr ystyr ein bod ni’n wlad a chanddi dîm pêl-droed gwahanol neu iaith wahanol neu ‘reolaeth’ wahanol dros ein haddysg – os oes hynny gennym o gwbl – ond gwahanol mewn ystyr mewnol hefyd.

Nid un ydym.

Cymysgedd o ddarnau gwahanol efo diwylliannau gwahanol a chefndiroedd gwahanol. Nid tafodieithoedd gwahanol sydd gennym, er enghraifft, ond ieithoedd gwahanol. Mewn gwirionedd, ni ddylsem fod yn un wlad o gwbl – ond stori arall ydi honno.

Felly beth ydi fy mhwynt?
Yr hyn dwi’n trïo’i dd’eud ydi na all pawb ddisgwyl undeb ieithyddol yng Nghymru ac, oherwydd hynny, ni ddylai neb (yn cynnwys Llywodraeth Cymru neu Gymdeithas yr Iaith neu neb) fod yn brwydro amdan hynny.

Pam nad ydi cynlluniau a pholisïau sy’n hyrwyddo’r iaith yn dod o awdurdodau lleol yn unig yn lle’r cynulliad? Siŵr o fod mai nhw fysai’n gwybod eu hardaloedd yn well?
Mae’n iawn disgwyl (a brwydro) am gwbl-ddwyieithrwydd yng Ngwynedd ac hyd yn oed yn Sir Conwy a Sir Ddinbych, ond mae disgwyl i hynny ddigwydd yn yr un modd ac o fewn yr un ‘ffrâm amser’ mewn llefydd fel Sir y Fflint, Wrecsam a Phowys ayb yn ynfyd.

Sut allem ddisgwyl yr un math o gynnydd ieithyddol yng Ngwynedd (lle mae’r ‘parch’ tuag at yr iaith yn uchel) ag yr ydym ni’n ei ddisgwyl yn Sir y Fflint (lle nad ydi rhan fwyaf o bobl yn ymwybodol eu bod nhw yng Nghymru o gwbl!)?

Hunanladdiad ieithyddol fysai uno er mwyn achub ein hiaith.
A dweud y gwirionedd pur wrthoch, yn ôl y Sensws diweddaraf mai mewn mannau dwyreiniol gwelwyd yr unig gynnydd ymhlith niferoedd y rhai sy’n medru’r Gymraeg – nid yn y Fro draddodiadol.

Beth mae hynny’n dd’eud wrtha’ i? Wel mae’n dangos 1) ei fod yn amlwg bod Cymry Cymraeg yn gadael llefydd fel Gwynedd a Cheredigion er mwyn chwilio am waith ayb ac, efallai’n union mor bwysig, 2) mae’r systemau gwella’r Gymraeg gan adran addysg y Llywodraeth ar hyn o bryd ond yn gweithio (ac felly ond yn berthnasol) mewn mannau lle nad ydi’r Gymraeg mor gryf.

Dwi ddim yn gweithio i’r Llywodraeth. Dwi ddim ‘chwaith yn rhan o unrhyw bwyllgorau gwella sgiliau addysg mewn unrhyw awdurdod lleol. Athro ydw i. Athro a chanddo ddiddordeb yn ein hiaith.

Dwi wastad wedi dweud fy mod i’n ysu am amser lle gallaf dd’eud nad oes angen am athrawon Cymraeg trwy gyfrwng y Saesneg oherwydd, os daw’r amser hwnnw, dwi’n gwybod basai ein hiaith yn ddigon cryf i sefyll ar ei thraed ei hun.

Dyddiau yma, mae’n fy mhoeni basai’n fwy debygol na fydd angen athrawon fel fi oherwydd bod ein hiaith wedi diflannu – efallai’n ganlyniad y cyrff llywodraethol sy’n trïo ei hachub.

5 thoughts on “Mewn undeb mae….?

  1. Diolch yn fawr iawn am rhannu dy feddyliau yma yn glir iawn. Mi rwyt ti’n codi llawer o bwyntiau diddorol a dilys. Yn anffodus, mae llawer o dy bwyntiau yn cryfhau fy meddwl i bod angen strategaeth llawer mwy craff arnom achos mae pob ardal mewn sefyllfa gwahanol ac unigryw. Serch hyn, mae dal i fod diffyg gweledigaeth a diffyg nod penodol o ran gwaith y Llywodraeth yn fy marn i. Mewn undod mae nerth … felly undod o ran gweledigaeth a nod sy’n hanfodol a wedyn gweithredu hynny’n lleol dan amgylchiadau gwahanol ein hardaloedd. Mesur cynydd o le dechreuwn ni ac nid yn erbyn y darlun o Gymru gyfan achos fel rwyt ti’n dweud, mae’n wahanol iawn. Diolch eto. Wedi mwynhau yn fawr a wedi gwneud i mi feddwl yn ffresi am y sefyllfa. Dw i innau yn athro a diddordeb yn dyfodol ein hiaith.

  2. Pwyntiau teg. Dathlu pob defnydd o’r iaith sydd ynbwysig. Mae sut gymaint o bobl yn gallu defnyddio’r iaith ac yn bersonol teimlaf fod y cyfrifiad diwethaf yn gamarweiniol. I ofyn I bobl am ruglder yn anodd ond petai pobl yn gofyn ydych chi’n gallu siarad Cymraeg, bydd yr ateb yn well. Mae rhaid I bawb gyda’r gallu I siarad neu sgwennu yn y Gymraeg, gwneud hynny.

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Change )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Change )

Connecting to %s