“Bore da”

Rhy hir am dwît, rhy fyr am flog -ond mi ‘na’ i’w bostio fam’e beth bynnag!

Heddiw’r bore, ddaru fi fynd am dro fyny Moel Famau – brigfynydd Clwyd.
Wrth gyrr’edd y top, ges i’m taro ar unweth gyn Dŵr y Jiwbilî – r’wbeth dwi ‘di isho cael gwared ohoni ers talwm. Byth braint ‘di o i’w welt’i. Ond er ambell i betisiwn ac ambell i dwît gyn i dros amser cythgam o hir, dal yne ma’ fo.
Ddaru fi ddim mentro i’w dringo heddiw’r bore ‘chos, i minne beth bynnag, troed yr heneb erchyll ‘ne ‘di brig y Moel.
Mewn ffor’, ddaru fi fedd’l, ma’ Tŵr y Jiwbilî ‘ne’n crynhoi sut ma’ fo i fod yng Nghymru. Hen beth i nodi llwyddiant y Saeson drosto’ ni – bellach yn adfail.

 
image
 

Ar nodyn fech arall, ar fy ffor’ lawr, a’m hysgyfaint yn ‘m lladd i, des i ar draws sawl berson oedd yn crwydro fyny. “Bore da,” dudwn wrth bob un a wela’ i. “Bore da. Ma’n wlyb, yndi?” daeth ymateb gyn hen wraig a’u ffrindie. Efo’m hysgyfaint yn llosgi a’m hymateb ‘mond yn anadl ddistaw, “ydi, ydi,” dudes i wrthi.

Tybed os fedren ni ddysgu r’wbeth yne?

Bore da iawn.

🙂

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Change )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Change )

Connecting to %s