Araith yr Unben Fawr

Mae’n ddrwg gennyf, ond nid wyf am fod yn ymerodwr. Nid fy musnes i yw hynny. Nid wyf am reoli na gorchfygu. Hoffwn gynorthwyo pawb – pe bai modd – Iddew, cenhedl-ddyn – du – gwyn. ‘Rydym i gyd am gynorthywo ein gilydd. Mae pobl fel hynny. ‘Rydym am fyw gyda hapusrwydd ein gilydd – nid gyda thrallod ein gilydd. Nid ydym am gasáu na dirmygu ein gilydd. Ar y ddaear hon mae lle am bawb. Ac mae’r ddaear dda’n gyfoethog ac yn gallu darparu am bawb. Gall y ffordd o fyw fod yn hardd, ond collasom y ffordd.
Oherwydd gwanc a thrachwant, gwenwynwyd enaid dynion gan fariaeth, gwrthgloddiwyd y byd gan gasineb ac fe’n hymdeithiwyd at drueni ac at dywallt gwaed. ‘Rydym wedi datblygu cyflymder ond wedi cau ein hunain i mewn. Mae peiriannau sy’n rhoi digonedd wedi gadael eisiau arnom. Mae ein gwybodaeth wedi ein gwneud yn goeglyd. Mae ein medrau wedi ein gwneud yn galed ac yn gas. Meddyliwn yn ormodol a theimlo’n llai. Mwy na pheiriannau, mae angen arnom ddynoliaeth. Mwy na medr, mae angen arnom garedigrwydd a pharch. Heb y rhinweddau hyn bydd bywyd yn dreisgar ac ar goll….

Mae’r awyren a’r radio wedi dod â ni at ein gilydd. Mae natur y dyfeisiau hyn yn chwantu am ddaioni pobl – chwantu am undod cyffredinol – er mwyn ein huno ni i gyd. Hyd yn oed yn awr mae fy llais yn cyrraedd miliynau ar draws y byd – miliynau o ddigalon ddynion, gwragedd a phlant bychain – dioddefwyr system sy’n gwneud i ddynion arteithio a charcharu pobl ddiniwed.

Iddynt hwy a all fy nghlywed, dywedaf – na choller gobaith. Gwanc a eith heibio ni mai’r trueni sydd ohonom ar hyn o bryd – chwerwedd pobl a chanddynt ofn o gynnydd ein byd. Eith casineb dynion heibio a gwneith unbeniaid farw, a dychwelir y pŵer a gipiant gan y bobl yn ôl i’r bobl. A thra bo pobl yn marw, ni threngir rhyddid….

Bobl! Peidiwch ag ildio i fwystfilod – dynion sydd yn eich casáu – sydd yn eich caethiwo – sydd yn trefnu’ch bywydau – dweud wrthych beth i’w wneud – beth i’w feddwl ac beth i’w deimlo! Sydd yn eich drilio chwi – rheoli eich bwyd – eich trin chi fel gwartheg, eich defnyddio chi fel targedau. Peidiwch â rhoi’ch hun i’r dynion annaturiol hyn – dynion peiriannol gyda meddyliau peiriannol a chalonnau peiriannol! Nid peiriannau ydych chwi! Nid gwartheg ydych chwi! Pobl ydych chwi! Mae gennych gariad dynoliaeth yn eich calonnau! Nid ydych yn casáu! Nid oes neb ond yr hwy sydd heb gariad sy’n casáu – hwythau a’r annaturiol!

Bobl, peidiwch ag ymladd dros gaethwasiaeth! Brwydrwch dros ryddid! Yn ail bennod ar bymtheg San Luc ysgrifennir bod: “teyrnas Dduw yn eich plith” – nid ymhlith un person ynteu grŵp o bobl, ond ymhlith pob unigolyn! Ynoch chwi! Chwi y bobl a chan y nerth – y nerth i greu peiriannau. Y nerth i greu hapusrwydd! Mae gennych chwi, y bobl, y nerth i wneud y bywyd hwn yn rhydd ac yn brydferth, i’w wneud yn antur anhygoel. Felly – yn enw democratiaeth – defnyddiwn y nerth hwnnw – cawn uno. Cawn frwydro am fyd newydd – am fyd gweddus a rydd i ddynion gyfle i weithio – ac i’r ifainc ddyfodol ac i’r henoed ddiogelwch. Wrth addo’r rhain, godid bwystfilod i’r llyw. Ond celwyddgwn ydynt! Ni chyflawnont eu haddewidion. Ni wnânt fyth!
Mae unbeniaid yn rhyddhau eu hunain ond yn caethiwo’r bobl! Heddiw cawn frwydro i gyflawni’r addewid hwnnw! Cawn frwydro i ryddhau’r byd – cael gwared o ffiniau cenedlaethol – cael gwared o ormodedd, o gasineb ac o anoddefgarwch. Gadewch inni frwydro am fyd rhesymol, am fyd lle arweinir gwyddoniaeth a chynnydd at lawenydd pob unigolyn. Bobl; yn enw democratiaeth, unwn!

– Charles Chaplin.

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Change )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Change )

Connecting to %s