Teimlad wedi’r Reff 2

Mae Cymru wedi dewis brathu’r llaw Ewropeaidd sy’n ei bwydo ac wedi penderfynu gwneud yr hyn mae wedi gwneud yn ddi-flino am dros 800 o flynyddoedd – gobeithio bydd Prydain yn caniatáu urddas i ni. ‘Rydym i gyd yn gwybod yn iawn sut mae hynny wedi arddangos erbyn hyn. Mae Cymru’n colli ei hiaith, ei diwylliant a’i hurddas – rhywbeth na fyddai wedi digwydd fel gwlad annibynnol o fewn Undeb o bobl dda Ewropeaidd.

Mae’r refferendwm wedi egluro’n glir yr hyn oedd yn synnwyr cyffreddin – er yn anffodus. Mae pobl Cymru’n fawr ddadrith ac yn gaeth i’w harglwyddi Prydeinig. Tu allan i Gibraltar ac Ynysoedd y Malfinas – ynysoedd ynysig pell heb oleuni’r byd o’u cwmpas – mae Cymru’n sefyll am enghraifft berffaith o sut mae gwladychiaeth fwystfilaidd Brydeinig wedi dwyn pennau a chalonnau gwlad wasaidd. Mae’r ”Skokholm’ Syndrome’ sydd arnom wedi amlygu bod gan Gymru ddyfodol ansicr o golli cymorth ariannol Ewrop ond, yn ogystal ac yn waeth, mae’n dangos bod y Cymry’n frwd ac yn gefnogol o’u cymdogion Saesnig.

Yn groes i’r Alban, nid dim ond anwybyddiaeth o sosialiaeth genedlaethol sy’n broblem yma yng Nghymru, ond y ffaith bod trigolion Cymru’n gyflym iawn i chwerthin am ben unrhyw syniad o Gymru’n sefyll ar ei thraed ei hun. A ydyw’n bosibl bod ein hymenyddiau wedi’u rhaglennu i ddarganfod ‘mond hiwmor yn ein nod o sicrhau gwlad sofran? Os felly, mae’r amseroedd sydd ohonom yn rhai torgalonnus iawn.

Ond oes goleuni ar ddiwedd y twnel tywyll?

Mae i weld yn debygol iawn bydd pobl yr Alban yn cywiro’r siom o osgoi eu hannibynniaeth yn 2014 trwy gynnal ail refferendwm. Bydd yr Albanwyr yn breuddwydio am sicrhau’r annibynniaeth sy’n angenrheidiol i guro’r ddwy flynedd cyn i Brydain adael. Byddant yn rhydd.

Mae Iwerddon yn nesáu at uno unwaith eto. Pabydd neu brotestant, Gwyddel neu Brydeinwr, mae’n edrych fel bod mwyafrif trigolion Gogledd yr Ynys Werdd o blaid aros yn rhan o’r Undeb Ewropeaidd. Y ffordd haws o sicrhau hyn fyddai aduno’r ynys. Wrth ystyried y ffaith bod y niferoedd sy’n gweld eu hunain yn Wyddelod dros Brydeinwyr yn cynyddu yn y Gogledd yn ogystal â’r ffaith bod nifer y Pabyddion Gwyddelig bellach yn fwy o fewn addysg uwch na’u cymhariaid Protestannaidd fydd yn golygu, cyn bo hir, 26 + 6 = 1.

Wrth gwrs, y peth iawn i’r llywodraeth bresennol wneud fyddai galw am etholiad cyffredinol newydd yn dilyn ymddiswyddiad David Cameron. Ond mae hyn, wrth gwrs, yn anhebyg ac bydd y 150,000 aelod o’r blaid Geidwadol yn penderfynu ar Brif Weinidog i reoli’r 60,000,000+ o drigolion eraill yr ynysoedd hyn. Blair wnaeth. Ond pwy a ŵyr? Efallai cawn ein synnu. Ond gydag edmygedd y Cadweidwyr am Gove ac am Boris….

Fy nghred a gobaith yw bydd mwy a mwy o wledydd yn gadael yr UE yn ei gwedd bresennol. Dros amser, bydd y gwledydd a adawodd eto’n sylweddoli’r rhyddid a’r budd o fod mewn casgliad ar raddfa gymanwladol. Byddant yn gweld rhyfeddodau’n cenhedlau. Efallai byddant yn ymuno’n wleidyddol ac yn penderfynu ar faner felyn â sêr gleision? Neu’r ffordd arall rownd?

A fydd hyn o’r diwedd yn tanio dychymyg y Cymry? Yn fy mhrofiad byr i, na fydd. Ond ‘rwy’n byw gyda’r gobaith bydd trigolion ein gwlad o leiaf yn ystyried budd ennill gwlad annibynnol o fewn Undeb Ewropeaidd.

Ewrop am byth.

🙂

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Change )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Change )

Connecting to %s