Chwaraewyd y cerdyn ‘trwmp’


Am y tro cyntaf yn hanes yr Unol Daleithiau, bydd Arlywydd heb unrhyw brofiad milwrol…. na ‘chwaith (ac yn bwysicach fyth) unrhyw brofiad gwleidyddol. Yn fab i siaradwraig Gaeleg, bydd Mr Trump yn fath newydd o arlywydd dros un o wledydd mwyaf pwerus ein byd.

Yn ogystal â’r ffaith nad oes gan Arlywydd newydd yr UDA unrhyw brofiad gwleidyddol, yn ôl ystadegau cafodd cryn dipyn o’i bleidleisiau gan bobl na fwrwodd unrhyw fath o bleidleis byth o’r blaen.

Pam? Mae’r system wedi gadael llawer o drigolion yr UDA i lawr yn ddiweddar ac os edrychwn yn fanwl ar hanes preswylyddion y Tŷ Gwyn ers yr 80au (ar wahân i Barack Obama) dim ond dau deulu buasai wedi byw yno os enillodd Hilary Clinton (Bush x2, Clinton x2). Mae pobl yr UDA yn cysylltu’r llinachau mewnol hyn â’r caledi sydd yn y wlad ar hyn o bryd. I minnau mae’n swnio fel bod pobl yn crafu am unrhyw newid mewn byd sy’n eu gadael i lawr…. hyd yn oed os bydd y newid hwnnw mor eithafol ag ethol Donald Trump at y Tŷ Gwyn.

Efallai gallem roi bai ar ochr chwith y sbectrwm gwleidyddol? Yn lle dadlau aeddfed, clywsom am bobl yn galw cefnogwyr Mr Trump yn hiliol. Ni all neb ddadlau bod ambell un yn eithaf hiliol, ond mae sawl rheswm arall pam gafodd Trump ei ethol – llawer mwy na’r lleiafrif a chanddynt feddyliau hiliol.

Am ba bynnag rhesymau digwyddodd ei lwyddiant, yn sicr ni ragwelodd llawer o bobl lwyddiant i Mr Trump ar ddechrau mis Tachwedd – hyd yn oed cryn dipyn o’u cefnogwyr ei hun.

****

Yn dilyn y bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd yn yr Ynysoedd Prydeinig dros yr haf, amlinellais fod cyfle am newidiadau da ymhlith tristwch gadael ein cyfeillion ar y cyfandir. Awgrymais fod teimlad cryfach eto yng Nghymru (ymhlith y rhai a bleidleisodd i aros yn yr Undeb Ewropeaidd) am annibyniaeth i Gymru, mae galw enfawr yn ddiweddar am ail refferendwm ar ddyfodol yr Alban o fewn y Deyrnas Unedig ac, yn dilyn canlyniad siomedig i drigolion Wlster, efallai gwelwn Iwerddon unedig cyn bo hir hefyd.

Mae’n anhebyg geith y bleidlais dros yr hen Ddonald gymaint o effaith ar Gymru â’r bleidlais i adael yr Undeb Ewropeaidd, ond, yn wir, bydd effaith.

Efallai nad ydynt yn amlwg eto ond credaf y byddwn ni’n gweld golau’n dod o lwyddiant Mr Trump hefyd o safbwynt Cymru fach mewn rhyw fodd.

Un peth daliodd fy sylw yn ystod yr etholiad hwn oedd y nifer bleidleisiodd dros ymgeiswyr annibynnol. Yn etholiad 2004 (pan gafodd George Bush ei ailethol) dim ond 1% o’r bleidlais aeth i rywun ar wahân i’r Democratiaid a’r Gweriniaethwyr. Hyd at 2012, mae’r ffigwr bron wedi dyblu. Eleni, tua 5% ddewisoedd ymgeisydd annibynnol. Pleidlais brotest? Efallai. Ond dengys newid, yn fy marn i. Newid cadarnhaol.

Felly yn ôl yng Nghymru fach, beth allwn dynnu o hyn i gyd? Oes gobaith i Leanne Wood ennill mwy o dir gyda mwy a mwy o bobl yn colli ffydd yn y sefydliad presennol i droi at opsiynau eraill? Credaf fod.

Un peth sylweddolaf am yr hyn a ysgrifennais uchod – daw’r gair ‘efallai’ yn aml iawn.
Diddorol, efallai?

:-/

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Change )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Change )

Connecting to %s