Cymrophobia-phobia

Fel siaradwr Cymraeg sy’n gwario llawer iawn gormod o amser ym myd y trydarwyr nag y dylse fod, mae’n anodd osgoi’r llu o gyfrifon a grwpiau sy’n chwilio am (ac weithiau’n derbyn yn uniongyrchol eu hunain) sylwadau yn erbyn ein hiaith.
Am flynyddoedd ‘rwyf wedi dilyn y fath grwpiau – yn aml iawn yn dewis herio’r rhai a wna’r sylwadau amheus am yr iaith treuliais flynyddoedd lawer i’w dysgu. Yn anffodus (ond efallai yn ôl disgwyl sinigaidd), yn aml iawn mai sylwadau’r rhai a symudodd i Gymru o dros Glawdd Offa wrth iddyn nhw gyrraedd oedran ymddeol ydyn nhw.
Bellach mae grwpiau ar gael sy’n gwneud pethau tebyg mewn Gaeleg yr Alban hefyd – pob un yn treillio dyfnderoedd y we am y rhai sy’n dioddef, am wn i, o’r salwch cyfoes a phoblogaidd; diflastod!

Ond oes pwynt i rannu’r fath deimladau sy’ gyn bobl eraill am ein hieithoedd? Beth ‘den ni’n trïo ei brofi?
I fi’n bersonnol, mae amlygu enghreifftiau o ‘Gymrophobia’ naill ai yn dangos yr hyn a wyddom yn barod – sef ‘rydyn ni’n byw mewn gwlad lle mae’n dderbyniol i godi hwyl am bob elfen o’n treftadaeth a’n diwylliant – neu ‘wrach, i lygad y byd mawr, ‘den ni’n ‘bitw’ iawn bob tro dywedir unrhyw beth o’i le amdanom.
‘Rydyn ni bendant yn byw mewn oes lle mae ymosod, gwneud sylw a theimlo fel bod eraill yn ein tramgwyddo yn gyffredin iawn ac yn dderbyniol iawn. Ond, ar y llaw arall, onid ydy pob person, cred, gwlad a syniad yn derbyn sylwadau anghytûn weithiau? Oni ddylsen ni jyst yn ei oddef?

I minnau, yn achos grwpiau fel ‘Cymrophobia,’ mae’n rhaid bod ‘ne falans rhwng tynnu sylw at y rhai sy’n ein drygliwio ac, yn syml iawn, dderbyn ac anwybyddu weithiau.
Wrth i bob sylw negyddol a dynnir atom gael ei rannu a’i feirniadu, crëir teimlad ein bod ni fel Cymry ond yn cwyno.
Onid oes gan bawb hawl at ei farn? Ac felly, onid oes gan bawb hawl i ymateb i farn eraill? Ym mhob achos – oes, wrth gwrs.
Ond hefyd ddylsen ni, ar adegau, ddysgu pryd a sut y dewiswn ein brwydrau?
Yn union fel mae, er enghraifft, gwneud penderfyniad bywyd i ddweud ‘diolch’ a pheidio dweud ‘thanks’ (hyd yn oed wrth sgwrsio’n uniaith Saesneg), mae newid hinsawdd yn y ffordd ‘den ni’n ymateb i’r hyn a glywswn am ein hiaith yn un anodd, ond un hefyd sy’n angenrheidiol er mwyn osgoi parhau i gael ein diffinio fel cael ‘sglodyn ar ein hysgwydd.’

Oes, mae’n rhaid amddiffyn ein hiaith ond mae perygl wedyn y try ein diwylliant yn un sy’ ond yn amddiffyn. Pe wariem ein hamser oll yn diogelu’n hiaith, a fysen ni wedyn yn fforffedu’r cyfle i ledaenu ein hiaith fel un sy’n gadarn yn ei lle fel iaith y byd?

Iaith gref nid iaith gul.

🙂

Advertisements

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out / Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out / Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out / Change )

Google+ photo

You are commenting using your Google+ account. Log Out / Change )

Connecting to %s