Dônt Têc Mî Hôm

Ers clywed y byddai’n digwydd hyd at, wel, rŵan hyd yn oed, dw i’n gyffrous dros ben am y Gêm Her Ryngwladol (sef gêm gyfeillgar ddibwynt) yn erbyn Trinidad a Thobago yng nghartref pêl-droed Cymru; Y Cae Ras, Wrecsam.

Basai unrhyw gefnogwr/aig o bêl-droed Cymru yn dweud wrthoch eu bod nhw’n cyffroi’n arw am unrhyw gêm mae Cymru’n rhan ohoni; mae yn y gwaed ac yn yr enaid. Dydyn ni byth yn mwynhau’r gemau – mae hynny’n amhosibl – ond mae bendant crin edrych ymlaen atyn nhw.

Ond ‘roedd y gêm hon yn wahanol i fi’n bersonol. Mae’r Cae Ras yn Wrecsam yn eglwys i fi; lle dw i’n mynd bob yn ail benwythnos i addoli fy nuwiau. Dw i wedi bod yn mynychu’r hen stadiwm am oddeutu â phum mlynedd ar hugain erbyn hyn ac dw i ddim ar fin newid fy nheyrngarwch eto – er y poen emosiynol a achosid wrth wylio Wrecsam yn ystod y degawd diwethaf! Felly ‘roedd dysgu y basai fy nhîm cenedlaethol y chwarae yno yn, wel…. basai fy ngwraig yn fy nisgrifio fel actio “fatha plentyn bach!”

Byw yn Wrecsam + Athro llawn amser; nid y cymysgedd gorau i fod yn gefnogwr pêl-droed Cymru. Ni chaniatéir unrhyw amser i ffwrdd o’r gwaith y tu allan i amseroedd y tymhorau a chyda UEFA’n ffafrio cynnal gemau ar ddydd Sul neu ar nos Fawrth yn ystod tymhorau’r ysgol, mae hyd yn oed cyrraedd Caerdydd yn gallu golygu y caf fy ngorfodi i wylio’r cochion ar y teledu yn lle – heb sôn am y bosibilrwydd o fynd i Aserbaisian ac yn ôl cyn amser cofrestru y diwrnod canlynol.

Dw i dal yn cyrraedd ambell i gêm gartref (a Bordeaux hefyd)…. mae fy nisgyblion yn cydymdeimlo’n llwyr gyda mi mewn cyflwr blinedig wedi wyth awr o deithio!

Felly, ar ôl un flynedd ar ddeg, ‘roedd pêl-droed ar ei ffordd adref i’w gartref ysbrydol yn Wrecsam. Yn ôl i’r dref lle cawsom gweir gan yr Albanwyr o ddwy gôl i ddim yn 1877 ac yn yr un stadiŵm lle cawsom gweir arall o dair gôl i ddim gan yr un gwrthwynebwyr yn 1879. Hyd at y gêm yn erbyn Trinidad a Thobago, dim ond dwywaith ‘roeddwn i wedi gweld Cymru’n chwarae yn y Cae Ras – yr un faint ag ydw i wedi gweld fy ngwlad yn defnyddio Anfield yn Lerpwl fel ei maes cartref! ‘Roedd hyn yn enfawr i fi.

Er gwynfyd pur oedd yr achlysur a chlywed ein hanthem yn cael ei chanu’n frwd mewn acen y gogledd ddwyrain, ‘roedd ambell i beth am y gêm wedi fy nghythruddo. Dyma ambell un a glywais cyn y gêm ar nos Fercher;

“Teimlo fel gêm oddi ca’tre lan ‘ma, munn”

Ydy hi? Taith hir, oedd hi? Croeso i realiti ni.

“Duw, ydych chi’ch lot yn ‘neud y dreif ‘na BOB gêm gytre’?”

Yndyn siŵr, gyfaill. Yndyn siŵr.

Braidd yn sgows lan ‘ma, i’fe?”

Braidd yn ‘Gymoedd’ lawr yne, dydi?

“Fi wostod yn edrych mas am sgôr Wrecsam!”

Felly dylech chi hefyd. ‘Rydyn ni o’r un wlad sy’n chwarae, fel timau chi, mewn cynghrair gwlad estron. Does dim ond 5 ohonon ni sy’n ‘neud – wrth gwrs y dylen ni aros efo’n gilydd!

Ac yn olaf; yr un ‘roeddwn i’n disgwyl (ac yn edrych ymlaen ati) ei chlywed yn cael ei chanu o’r teras yn y Cae Ras (sydd yn Wrecsam; sydd yng NGHYMRU):

Don’t Take Me Home

MI YDYCH CHI BL*DI ADRE’!

A dyna oeddwn i. Llawn casineb a blinder. Felly stopiais fy hun ac ailfeddwl. Dyna yw problem ein cefnogwyr a, mewn gwirionedd, ein gwlad ei hun. Ni allwn ymfalchïo yn ein gilydd.

Mae’n beth rhyfedd iawn. Mae fel darganfod fod dy dad wedi bod yn dysgu Cymraeg ac wedyn trïo newid arfer bywyd yn siarad Saesneg i siarad Cymraeg. Dydy hi byth mor naturiol ag y hoffech fod. Neu mae fel trïo ymfalchïo yn y gamp o adeiladur Mur Mawr Tseina fel camp yr hil dynol yn lle dim ond pobl Tseina. Neu ddod o Rwsia ac ymfalchïo mewn Apollo 11 yn glanio ar y lleuad – er mai o’r un blaned ydyn ni i gyd sy’n rhannu’r un lleuad!

Rŵan, ‘te. Efallai bydd hyn yn anodd ond trïwch y prawf bach hwn. Dewch o hyd i’ch ardal leol a thrïo ymfalchïo mewn pob dim sy’n dilyn fel y dylai unrhyw berson o Gymru;

I bobl gogledd ddwyrain Cymru: Alright, la? Mae Gareth Bale (Caerdydd) yn dod o’r un wlad â chi ac ‘rydych chi’n byw yn yr un tir â’r Wyddfa (Gwynedd).

I bobl de orllewin Cymru: Shwd i’chi? ‘Roedd Owain Glyndŵr (Clwyd) yn ystyried ei hun fel yr un cenedligrwydd â chi. Ambell waith bob blwyddyn, mae Stadiwm Dinas Caerdydd (Caerdydd) yn gartref i chi.

I bobl gogledd orllewin Cymru: Iawn, mêt? Mae gan eich gwlad y draphont ddŵr uchaf ar y blaned (Clwyd) a chyflwynwyd y hafalnod (=) gan ddyn o’r un wlad â chi (Penfro).

I bobl de ddwyrain Cymru: Orite, butt? ‘Rydych chi’n un o’r un tiroedd â Phadrig Sant (Penfro) ac mae’ch gwlad yn gartref i un o enwau llefydd hiraf y byd (Ynys Môn).

Mae POB un o’r pethau uchod yn pethyn i BOB un ohonom ni fel Cymry! Llwyddiant, galar a baich i gyd.

Wrth gwrs mae elfennau tywyll i hyn hefyd. Er enghraifft, pan foddwyd Capel Celyn, boddom ni i gyd. ‘Roeddem ni i gyd yn sefyll wrth wal yr hen swyddfa bost yn yr Wyddgrug ym 1869 pan laddwyd 4 dyn am geisio siarad Cymraeg ym mhyllau glo Coed-llai. ‘Roeddem ni i gyd yn chwilio’n ddi-baid am blant Aberfan. ‘Rydym ni i gyd yn ddioddefwyr trychineb Groesffordd. ‘Rydym ni i gyd yn llyfrau gleision a Thaffî’r Cymro go iawn. Pob un ohonom ni.

Rhannwn mewn cymaint o dristwch a phrydferthwych unedig ond ni allwn osgoi’r teimlad na allwn ni uniaethu â Chymru gyfan dim ond oherwydd nad ydy pob dim o’n milltir sgwâr ni. Peidiwch â rhoi’r bai ar ein trafnidiaeth wael – mae hon yn broblem ein hymennydd. Y tro diwethaf i’r Cymry uno, coronwyd tywysog newydd ar ôl dros ganrif o aros, sefydlwyd llywodraeth a chynlluniwyd eglwys genedlaethol a dwy brifysgol o safon uchel. How very dare they! Ond dyddiau hyn cawn ein haddysgu o’r crud nad ydym yn wlad unedig; er enghraifft, ‘rydym ni’n credu y dylid sillafu gogledd Cymru a de Cymru gyda phrif lythyren (ie Gogledd Cymru a De Cymru) sydd, yn seicolegol, yn ein gwneud ni deimlo nad ydym yn un wlad gyfan ond rhanbarthau gwahanol. Fasech chi byth yn clywed South Scotland neu North England yn Saesneg? Ond ‘rydych chi wedi clywed North Cornwall, do? Am ryfedd!

Os ydych chi’n ystyried eich hun yn Gymro neu’n Gymraes – dim ots os ydych chi’n cefnogi Tref y Barri, Dinas Abertawe, Tref Caernarfon neu Wrecsam – mae dy wlad yn gartref i’r stadiwm hynaf ar ein planed i gynnal gemau rhyngwladol. Mae gan eich gwlad y stadiwm fwyaf yn y byd gyda tho symudol ac, weithiau, mae’ch tîm cenedlaethol yn chwarae yno hefyd! EICH TÎM CHI!

Y tro nesaf ‘rydych chi’n darllen un o’r ffeithiau hyn ac mae’ch pen yn eich gwneud chi deimlo braidd yn genfigennus o’r bobl sydd ond yn byw tua chwarter awr i ffwrdd o’r llefydd, stopiwch. Dyna’r ormes sydd yn heintio’ch meddwl ac mae’r rhaid i chi ei wrthwynebu. Mae’r pethau hyn yn perthyn i NI – beth bynnag ein cyfeiriad neu god post!

‘Rydyn ni adre’n barod. Waeth i ni ddechrau actio fel bod ni felly.

ISOD: Cefnogwyr Wrecsam, Caerdydd ac Abertawe’n cwrdd y tu allan i Saith Seren er mwyn trafod annibyniaeth i Gymru gyda’r cyhoedd;

Advertisements

Leave a Reply

Fill in your details below or click an icon to log in:

WordPress.com Logo

You are commenting using your WordPress.com account. Log Out /  Change )

Google photo

You are commenting using your Google account. Log Out /  Change )

Twitter picture

You are commenting using your Twitter account. Log Out /  Change )

Facebook photo

You are commenting using your Facebook account. Log Out /  Change )

Connecting to %s