Lawrlwytho Pokémon Coch

pkmnc

Cliciwch yma i lawrlwytho fersiwn 9.

DS Bydd rhaid lawrlwytho efelychydd (emulator) yn ogystal â’r ffeil uchod. Mae gwybodaeth ar sut i wneud hyn ar ddiwedd y cofnod hwn.


Nodiadau am y gêm:

  • Dydy’r cyfieithu ddim wedi’i gwblhau eto. Mae dal digon o waith i wneud.
  • Ffeil fyw ydy’r ffeil uchod – byddaf yn ei diweddaru pob tro caf gyfle. Pob tro byddwch yn chwarae’r gêm, mae’n werth ail-lawrlwytho’r ffeil er mwyn cael y fersiwn diweddaraf fydd ganddo mwy wedi’i gyfieithu a llai o namau (gobeithio!).
  • Mae ambell i nam yn codi wrth chwarae – fel arfer gellir mynd heibio hyn trwy bwyso’r prif fotwm sawl gwaith. ‘Dydw i heb ddod ar draws nam sy’n stopio’r gêm rhag rhedeg yn gyfan gwbl…. eto!
  • Dylid sylweddoli mai tasg anodd a pharhaol iawn ydy hon. Mae wedi bod yn anodd cadw’r nodau o dan y nifer a ganiateir gan y gêm ac felly bu’n rhaid i mi gynnwys digon o ‘fratiaith’ (os yw’r fath beth hyd yn oed yn bodoli) a chymysgedd o dafodieithoedd gwahanol – er nad peth drwg ydy hynny!
  • Gweler isod am fideo o’r gêm, gwybodaeth tu ôl i’r prosiect a chysylltiadau at wefannau er mwyn chwarae’r gêm eich hunain.
  • Gadewch i mi wybod os nad ydych yn llwyddo lawrlwytho unrhyw beth o’r dudalen hon. Gellir cysylltu â mi ar Drydar (@SteCymru14) neu drwy fy ebostio.

Diolch yn fawr iawn.
SteCymru14.



Cliciwch yma i ddarllen am fy mhrosiect

i ddarparu Pokémon Red yn Gymraeg.

Cliciwch yma i weld fideo
YouTube 
gyda 90 eiliad o’r gêm.



Cliciwch yma i lawrlwytho efelychydd
(emulator) er mwyn chwarae’r gêm.


Nodiadau am yr efelychydd:

  • Bydd yr efelychydd hwn ond yn gweithio ar gyfrifiadur personol neu ar gluniadur.
  • Er mwyn ei chwarae ar iPhone bydd rhaid mynd i’r wefan hon.
  • Ar ôl lawrlwytho’r efelychydd, bydd rhaid echdynnu cynnwys y ffeil. Gweler y nodiadau yn y llun isod:Di-deitl
Advertisements

O Frongoch i’r Lingos (Gaeilge)

(Cymraeg) (English)

Is féidir linn labhairt faoi na hÉireannaigha bhí Príosúnaigh Cogaidh i bhFrongoch mar a bheith uafásach agus spreagúil – ón chóireáil droch ar na príosúnaigh Éireannacha ag na Breataine a bhí á choinneáil iad, don muintir áitiúla na Breataine Bige ag tabhairt arán agus toitíní breise colceathracha Ceilteacha.

Inniu, tá cuimhneacháin i dtrí theanga sa cheantar a comóradh an campa.

fr

Bhí sé sin an chéad uair a chonnaic mé na Gaeilge i mBreatain Bheag ó déanamh mo chúrsa san Ollscoil in Aberystwyth. Bhí foghlaim Gaeilge trí na Bhreatnais an-dhúslánach agus freisin an-shuimiúil ach, tar éis a críochnaithe ansin, bhí mé i gcónaí ag déanamh iontais cén áit a mbeadh mé a fháil ar mo scileanna teanga nua a úsáid. Sílim go raibh sé díomá gur tháinig an deis sin liom mar gheall ar an eachtra brónach seo i mBreatain Bheag.

 

Ní raibh sé go dtí thart ar cúig bliana ina dhiaidh sin go fuair mé an iontais Duolingo. Is clár saor-in-aisce é agus tá sé ar fáil ar chuid is mó na fóin chliste inniú. Múineann sé teangacha trí, creidim, teicnící an-éifeachtacha.

Ó tháinig le 1.5 milliún úsáideoirí eile atá ag foghlaim na Gaeilge ar an suíomh gréasáin, tá mo chuid Gaeilge ag feabhsú an t-am. Ní féidir liom fanacht chun cuairt a thabhairt ar na Gaeilgteachtaí agus úsáid mo chuid Gaeilge anseo – agus freisin baint úsaid as frásaí ar shráideanna i mBaile Átha Cliath agus áiteanna eile.

Le go leor de mo rath i nGaeilge ag teacht trí Duolingo a úsáid, bhí mé an-fonn a chinntiú go raibh an cineál céanna deiseanna ar fáil d’fhoghlaimeoirí na Breatnais freisin. I Nollag 2015, thosaigh mé a bheith mar chuid de ghrúpa le thart ar a hocht díograiseoir Breatnais eile ag cruthú cúrsa i mo theanga fhéin. Tá mé ag súil nuair a léann tú sin beidh an cúrsa ar fáil ar fud an domhain agus beidh sé ag cabhrú le daoine a fhoghlaim níos mó na Cymraeg.

An féidir libh a spreagadh ar cainteoirí na Breatnaise a thriail ár gcúrsa agus freisin aon aiseolas a tabhairt ar aon botúin a fhaigheann sibh? Tá súil agam go léir na canúintí san áireamh ach is gá dúinn cúnamh ó dhaoine eile chun a chinntiú go mbeidh an cúrsa ceart.

 

Nuair a chríochnaigh mé an cúrsa Gaeilge ar Duolingo (agus trí bheidh mar chuid den fhoireann a tháirgtear leagan Breatnais) bhí mé ag cinntiú go bhfuil níos mó de na teangacha Ceilteacha ar fáil a fhoghlaim leis an gréasáin. Go han-luath, tá súil agam go bheidh mé ag tosú ar na Coirnis, Manainis, Gaeilge na hAlbain agus na Briotáinis – más mian leibh chun cabhrú liom leis na tionscadail sin, téigh i dteagmháil go díreach liom trí Thuítear; @SteCymru14. Nó is féidir libh aon chomhfhreagras a seól go Rúnaí Brainse na Bhreatain Bheag sna Conradh Ceilteach.

O Frongoch i’r Lingos (Cymraeg)

(Gaeilge) (English)

Gellir disgrifio’r hanes tu ôl i’r caethion Gwyddelig yn Frongoch mewn dwy ffordd; sef ofnadwy a chalonogol – ofnadwy oherwydd triniaeth y Gwyddelod dewrion gan eu dalwyr Prydeinig a chalonogol oherwydd hanes y Cymry fu’n gweithio yn y safle ar adegau’n rhoi ‘chwaneg o fara ac o sigarennau i’w cefndryd Celtaidd.

Cofir y safle heddiw yn y pentref cysglyd hwnnw gan blac mewn tair iaith sy’n rhoi dipyn bach o wybodaeth am y gwersyll.

fr

Gweld hwn ‘roedd y tro cyntaf i mi ddod ar draws y Wyddeleg yng Nghymru ers i mi wneud fy nghwrs yn y brifysgol yn Aberystwyth. Bu dysgu’r Wyddeleg trwy gyfrwng y Gymraeg yn heriol ac yn syfrdanol ond ‘roeddwn wastad yn poeni ymhle y cawn gyfle i ymarfer ac i ddefnyddio fy sgiliau ieithyddol newydd. I minnau, bu’n siom enfawr y ces i’r cyfle oherwydd digwyddiad mor drist ar dir y Cymry.

 

Nid oedd tan ar ôl cwpl o flynyddoedd yn ddiweddarach y des ar draws Duolingo. Mae Duolingo yn rhaglen sy’n rhad ac am ddim ac sydd ar gael ar lwyth o lwyfannau gwahanol. Mae’r rhaglen yn annog defnyddwyr i ddysgu’r iaith/ieithoedd y dewisant gan ddefnyddio, yn fy marn i, technegau effeithiol iawn.

Ers ymuno â thua 1.5 miliwn o ddefnyddwyr eraill sy’n dysgu’r Wyddeleg yn unig, mae sgiliau yn yr iaith honno wedi gwella’n sylweddol. Ni fedraf aros i ymweld â chadarnleoedd y Wyddeleg cyn bo hir i ymarfer ymhellach – yn ogystal â thrïo ambell i ymadrodd ar strydoedd Dulyn ac yn y blaen.

Gyda rhan fwyaf o’m llwyddiant yn y Wyddeleg yn dod trwy Duolingo, ‘roeddwn i’n awyddus iawn i sicrhau cafodd dysgwyr y Gymraeg yr un cyfleoedd. Ers diwedd 2015, mae wedi bod yn bleser bod yn rhan bychan o grŵp bychan sydd wrthi’n creu cwrs yn y Gymraeg. Gyda bach o lwc, erbyn i chi ddarllen hyn bydd y cwrs Cymraeg ar gael yn fyd-eang er mwyn i bawb ddysgu dipyn bach mwy am iaith y nefoedd.

Allwn hefyd annog i siaradwyr rhugl y Gymraeg drïo’r cwrs a rhoi adborth am unrhyw wallau gramadegol neu dafodieithol y dewch ar eu traws? Gobeithiwn caiff pob tafodiaith eu cynnwys o’r cychwyn cyntaf ond gwerthfawrogwn gymorth gan bawb er mwyn sicrhau bod y cwrs yn iawn i ddefnyddwyr.

 

Ers cwblhau’r cwrs Gwyddeleg ar Duolingo a bod yn rhan o’r tîm anhygoel sy’n cynhyrchu’r cwrs yn y Gymraeg, mae brwdfrydedd arnaf i barhau â’r ymgyrch o sicrhau bod lle i bob iaith Geltaidd ar y rhaglen lwyddiannus hon. Hoffwn yn y dyfodol agos fynd at arweinwyr Duolingo a chynnig fy amser i greu gyrsiau yn y Gernyweg, y Fanaweg, Gaeleg yr Alban a’r Llydaweg. Pe bai diddordeb gan unrhyw un i’m cynorthwyo gyda’r prosiectau hyn, a fyddech gystal â chysylltu â mi trwy Drydar; @SteCymru14. Neu gallech anfon unrhyw gyfatebiaeth at Gadeirydd y Gangen Gymreig y Gynghrair Geltaidd.

O Frongoch i’r Lingos (English)

(Cymraeg) (Gaeilge)

The history behind the Irish POWs in Frongoch can be described as both awful and heart-warming – from the poor treatment of Irish prisoners by their British captors, to the Welsh locals handing out extra bread and cigarettes to their Celtic cousins.

Today the site is remembered in the sleepy Welsh village by a trilingual plaque commemorating the camp.

fr

Seeing this was the first time I encountered Irish in Wales since my course in the University of Aberystwyth. Learning Irish though the medium of Welsh was both challenging and eye-opening but I forever wondered where I’d get a chance to use my newly acquired language skills. I guess it was a shame that the chance would arise following such a sad occurrence on Welsh soil.

 

It wasn’t until some years later that I encountered the wonders of Duolingo. A free-to-use application available on most smartphones, Duolingo teaches languages using, in my view, highly effective techniques.

Since joining nearly 1.5 million other users learning Irish alone on the language-learning site my Irish has improved drastically. I can’t wait to visit some of the Irish language’s heartlands very soon to test it out – as well as attempting the odd phrase on the streets of Dublin etc.

With so much of my Irish language success coming through Duolingo, I was extremely keen to ensure the same opportunities were afforded to those learning Welsh. Since Christmas of 2015, I’ve had the pleasure and honour of being part of a group of around 8 other Welsh enthusiasts to create a course for my own language. With a bit of luck, by the time you read this the course will be available worldwide for people to pick up some more Cymraeg.

May I also encourage speakers of Welsh to try out the course and to give feedback on any mistakes you might find? Hopefully all bases and dialects are covered but we need the help of others to ensure the course is right for all.

 

Since completing the Irish course on Duolingo and being part of the team that produced the Welsh version, I’ve been enthused to continue ensuring that more of our wonderful Celtic languages are available to be learned using the site. I hope to have Cornish, Manx, Gaelic and Breton accepted very soon and should anyone wish to help me with any of these projects, please contact me via Twitter; @SteCymru14. Alternatively, send any correspondence to the Welsh Branch Secretary of the Celtic League.

Update / Diweddariad

I’ve been meaning to make something a little more substantial out of my blogging site for quite some time….

So that’s what I’ve done!

Check out my new additions and pages:

BEAR IN MIND THEY ALL REMAIN A WORK-IN-PROGRESS!

1

^ Two new drop-down menus:

  1. Celtic Languages – Information and ways to learn.
  2. Prosiectau (Projects) – Some local and international projects with whom I attempt to lend a hand.

2

^ New Twitter feed on right-hand side of page (not available on mobile devices – @SteCymru14).

🙂

Cymraeg: Cymru, Yr Ariannin ac…. Iwerddon?

Roedd yn Dwît ataf gan Darragh Ó Naraigh a’m gorfododd i feddwl;

“@milseogmhilis: Ba chóir #Cymraeg a mhúineadh mar ábhar roghnach i scoileanna in Éirinn #Gaeilge @SteCymru14”

Mae Darragh yn flogwr o Iwerddon sy’n trafod gwahanol bynciau sy’n ymwneud â’i wlad – trwy gyfrwng iaith ei wlad.

Yn ôl ei Dwît uchod (gydag ymddiheuriadau am gyfieithiad gwael o’r Wyddeleg gennyf innau), “Dylai’r Gymraeg gael ei haddysgu mewn ysgolion ar yr Ynys Werdd.”

Wedi i mi orffen gwenu o glust i glust am y ffaith bod ‘na bobl yn Iwerddon sy’n credu dylai iaith y nefoedd gael ei haddysgu mewn gwlad arall – wel, mae un person sy’n credu hyn beth bynnag! – feddyliais am yr hyn ‘rwy’n addysgu fel athro’r Gymraeg trwy gyfrwng y Saesneg.
‘Rwy’n sicr nad wyf innau’r unig un sy’n credu mai athrawon diwylliant Cymru, yn ogystal ag athrawon iaith, ydym ni fel athrawon Cymraeg trwy gyfrwng y Saesneg. Nid oes eisiau arnaf yma fynd ati i lunio cwyn neu adroddiad swyddogol am sefyllfa addysg hanes fel pwnc yng Nghymru, ond gall unrhyw un sydd gan ymennydd weld nad oes pwyslais o gwbl ar ddiwylliant, ar dreftadaeth nag ar etifeddiaeth ein gwlad yn y cwricwlwm presennol. Felly mae arnom ninnau (ar hyn o bryd, o leiaf) i sicrhau daw dysgwyr i wybod am Gymru yn ogystal â dysgu’r iaith.

Mae hyn yn ddyletswydd fawr arnom fel athrawon iaith ond fel myfyriwr aeth trwy’r system addysg mewn ysgolion cyfrwng Saesneg fy hun a ddaeth allan heb unrhyw wybod am hyn oed Sam Tân (heb sôn am Owain Glyndŵr a’i gyfeillion ac am hanes Cymreig Nos Galan Gaeaf), mae’n ddyletswydd angenrheidiol.
Bob hyn â hyn yn fy ngwersi (yn yr amseroedd prin sydd gennym cyn diwedd tymor neu hanner tymor lle mae’n anodd dechrau topig newydd ac mae’r gwaith adolygu wedi gwblhau, ‘rwy’n tueddu i ddangos sioeau sleidiau arbennig (a greuais innau fy hun gynt). Fel arfer, maen’ nhw’n fersiynau syml o’r Mabinogi neu am straeon Cymreig eraill. Hefyd, af ati i lunio gwersi am hanes Cymreig Nos Galan Gaeaf, y Nadolig a’r Pasg. ‘Rwy’n tueddu i ychwanegu lluniau bach neis yn ogystal â chwestiynau yn Saesneg i’r plant eu hateb am y straeon neu am y digwyddiad.
Ond nid hynny ydy fy mhwynt yn y blognod hwn – er ‘rwy’n gobeithio fy mod i wedi rhoi syniad newydd, difyr i athro/awes arall!

Yn ogystal â’r straeon ayb, ‘rwyf hefyd yn hoff o adrodd diwylliant y gwledydd Celtaidd bob tro daw dyddiad Sant yn y calendr.

Mawrth 1af – Dydd Gŵyl Ddewi (Cymru), Mawrth 5ed – Dydd Gŵyl Beran (Cernyw), Mawrth 17fed – Dydd Gŵyl Badrig (Iwerddon) a Thachwedd 30fed – Dydd Gŵyl Andrea (Yr Alban).

DS Ni wn am ddyddiau arbennig tebyg yn Llydaw nag ar Ynys Manaw.

Pan af ati i ddangos y sioeau sleidiau hyn, mae wastad amser i’r plant ddysgu bach o iaith y wlad dan sylw.

Efallai mae hyn yn cynnwys cael plant i ddyfalu beth ydy ystyr y gair Cernyweg ‘kath’ (dim gwobrau i neb yno), neu gael y plant i weld sut mae ‘tha’ yn Ngaeleg neu ‘tá’ yn y Wyddeleg yn cyfateb i ‘mae’ yn Gymraeg (gwobrau lu yno!).

Fel arfer, rhoddaf gyfle i’r plant lunio sgwrs fach syml yn yr iaith dan sylw ar ddiwedd y sesiwn…. ond gyda thwist!

Dim ond trwy gyfrwng y Gymraeg gall plant ddeall yr iaith arall. Er enghraifft, wrth ddysgu dipyn bach o Gernyweg;

___ ov vy = ___ ydw i

da yw genev = dwi’n hoffi

Trwy wneud hyn, mae plant yn dibynnu’n gyfan gwbl ar eu gwybodaeth o’r Gymraeg er mwyn cael at a deall yr iaith newydd.

Weithiau ‘rwy’n rhoi paragraff Gwyddeleg (neu ba bynnag iaith) a chael y plant i feddwl beth mae’n olygu. Yr unig ffordd gallent wneud hynny, wrth gwrs, ydy cofio am eu Cymraeg er mwyn gweld geiriau tebyg a llunio trawsieithiad yn eu pennau.

Mae hon yn dasg sy’n ddiddorol ac mae’n sicr o weithio gan, mwy na thebyg, na fyddai’r plant wedi gweld yr ieithoedd hyn o’r blaen – methiant systemau addysg arall yn yr Ynysoedd Prydeinig a thu hwnt yno!
Pam ydw i’n credu mor gryf yn fath ffyrdd craff, ysgafn ac isymwybodol o addysgu’r Gymraeg? Achos fel myfyriwr (nad oedd ganddo Gymraeg perffaith o gwbl), ‘roedd yn rhaid i mi astudio Llydaweg, Gwyddeleg, Gaeleg yr Alban, Hen Gymraeg ac Hen Wyddeleg fel rhan o’m cwrs yn y brifysgol…. trwy gyfrwng y Gymraeg i gyd.

‘Doeddwn i ddim yn medru credu pa mor sydyn y cryfhaodd fy Nghymraeg trwy astudio’r ieithoedd hyn – rhan fwya’ o’r amser, heb wybod yn wybodol am y cynnydd ‘roeddwn yn ei wneud gyda fy Nghymraeg.

Byddai’n ddiddorol iawn gwneud ymchwil ar yr effaith mae gwersi Ffrangeg neu Almaeneg ayb yn cael mewn ysgolion cyfrwng Cymraeg ar allu ieithyddol y plant gyda’u Cymraeg.
Siawns (enfawr) na fyddai’r blognod hwn wedi helpu neb gyda’u haddysgu ond ‘rwy’n gobeithio bod ‘na o leiaf rywbeth i bobl feddwl amdano.
Hir oes i ddiwylliant Cymru – pa bynnag iaith ein hysgolion.

Stephen Rule

@MaelorCymraeg

@SteCymru14